Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 12 Mai 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
14.30 - 16.02 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Melding AC (Cadeirydd) Suzy Davies AC Julie James AC Eluned Parrott AC Simon Thomas AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Andrew Jolley, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
P Gareth Williams (Clerc) Ruth Hatton (Dirprwy Glerc) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) Alys Thomas (Ymchwilydd) Stephen Boyce (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3
2.1 CLA397 - Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi (Diwygio) (Cymru) 2014
2.2 CLA398 - Rheoliadau Trosglwyddo Swyddogaethau (Bwyd) (Cymru) 2014
2.3 CLA399 - Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Cymru) 2014.
2.4 CLA396 - Gorchymyn Rhestrau Ardrethu (Gohirio Gwneud Rhestrau) (Cymru) 2014
Nododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon â hwy.
3 Papur i'w nodi
3.1 Llythyr gan y Llywydd at y Cadeirydd: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil Cymru
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.
4 Tystiolaeth yn ymwneud â'r Ymchwiliad i anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Andrew Jolley, Cadeirydd y Cyfreithwyr mewn Llywodraeth Leol (Cymru) a Phrif Weithredwr Cynorthwyol (Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio) a Swyddog Monitro Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Cytunodd y Pwyllgor i gynnal gweddill y cyfarfod yn breifat.
5.1 Blaenraglen waith.